Aberoedd
Mae ardaloedd tawel, digyffwrdd Aber y Daugleddau, sydd â choed bob ochr iddo, ac afonydd y Caeriw a’r Cresswell, i fyny’r afon o borthladdoedd dwfn Aberdaugleddau a Doc Penfro, yn cynnig lloches heddychlon i bobl ac i fywyd gwyllt. Mae’r ymwelwyr rheolaidd â’r ardaloedd hyn yn cynnwys niferoedd adar gwyllt sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ac sy’n pasio trwy’r ardal wrth fudo am y gaeaf, gan aros i ail-lenwi eu storau egni hanfodol. Mae fflatiau llaid rhynglanw sy’n draenio i’r brif ddyfrffordd yn cynnal cymunedau cyfoethog a chynhyrchiol o bysgod cregyn a mwydod.
Mae’r creigwely tanddwr, y llethrau o feini mawr ac ardaloedd o gregyn/gerrig crynion ym mlaenau afon y Daugleddau yn gartref i anemonïau anferth, lliwgar, dewis anhygoel o sbyngau ymledol wedi’u hysgubo gan y cerhyntau, a charpedi o chwistrellau môr. Gellir dod o hyd i wystrys brodorol a physgod mudol yma hefyd.
Mae aberoedd yn gilfachau arfordirol lle mae yna ddylanwad dŵr croyw sylweddol, yn gyffredinol. Mae ACA Sir Benfro Forol yn cynnwys aber y Daugleddau a hefyd aberoedd llai o faint sy’n ymuno â dyfrffordd Aberdaugleddau fel yr Afon Penfro, Cosheston Pill, Afonydd y Caeriw a’r Cresswell, Garron Pill, Sprinkle Pill a Millin Pill.