Snorclo hawdd (Sue Burton)

Adnoddau Addysgol​

Un o’r ffyrdd pwysicaf o ofalu am y safle sydd gennym, yw codi ymwybyddiaeth ac esbonio wrth bobl pam y mae’r ACA yn lle mor arbennig. Mae Swyddog yr ACA yn gweithio gyda phobl eraill sy’n cynnal digwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn, gyda’r cyhoedd a grwpiau ysgol lleol. Gobeithiwn y bydd pobl, wedyn, yn dod i ddeall yn well sut le anhygoel yw amgylchedd morol Sir Benfro, ac y byddant eisiau helpu gwarchod y bywyd gwyllt morol sydd yma.

“Trwy ddehongli, deall; trwy ddeall, gwerthfawrogi; trwy werthfawrogi, amddiffyn”” Freeman Tilden (Interpreting our Heritage, 1957) (Cyfieithiad).

“Ni warchod unrhyw un rywbeth nad yw’n annwyl iddo; ac ni fydd rhywbeth yn annwyl iddo nad ydyw wedi ei brofi.” David Attenborough.

“Os bydd pobl yn colli gwybodaeth am y byd naturiol, cydymdeimlad ag ef a dealltwriaeth ohono, maen nhw’n mynd i’w gam-drin ac ni fyddant yn gofyn i’w gwleidyddion ofalu amdano.” David Attenborough.

Ewch i’n tudalen Pecyn Gweithgareddau Ar Lan y Môr.

 

Dolenni Addysg Sir Benfro Forol

Bendithiwyd Sir Benfro ag addysgwyr ac adnoddau anhygoel i hyrwyddo ac i gyflwyno addysg gydag elfen forol.

Mae Canolfan Darwin yn gweithio gydag ysgolion yn Sir Benfro yn ogystal ag addysgwyr cartref ac mae’n cynnal digwyddiadau cyhoeddus. Mae ei hymweliadau glannau creigiog yn hynod o boblogaidd bob tro!

Mae Canolfan Astudiaethau Maes Caer Dale  yn cynnig dewis o gyfleoedd i ddysgu am fioleg ac ecoleg y môr, ynghyd â chyrsiau preswyl, gwyliau i’r teulu, addysg awyr agored i ysgolion a chyrsiau arbenigol. Mae hyd yn oed yn gallu mynd â chi i snorclo! Trefnwch gwrs i ehangu eich gwybodaeth, neu porwch drwy ei gwefan ragorol sy’n llawn gwybodaeth am lan y môr lle cewch hyd i fanylion am barthau a dosbarthiad rhywogaethau, a mwy.

Mae Tîm Darganfod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Sir Benfro, a thu hwnt. Mae’n cynnig dewis eang o sesiynau maes a dan do ymarferol, ar gyfer pob cam addysg ffurfiol, yn ogystal â chyfleoedd dysgu anffurfiol wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer y rheiny sy’n wynebu rhwystrau at ymgysylltu yn yr awyr agored. Am wybodaeth gyffredinol am y Parc Cenedlaethol ac i ddarganfod sut i gysylltu, rhowch glic ar yr adran Dysgu ar ei wefan. Mae yna daflenni gwych ar gael hefyd, i’ch helpu i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt lleol Bywyd Gwyllt – Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yn rhwydwaith sy’n rhoi cymorth ac anogaeth gyda dysgu yn yr awyr agored yn Sir Benfro.

Mae Sea Trust yn elusen sydd wedi ymrwymo i astudio a chodi ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt morol lleol.

Niferoedd (Sue Burton)