
Adroddwch am unrhyw rywogaethau yr ydych yn eu gweld
Mae adrodd am y bywyd gwyllt morol yr ydych yn ei weld yn gallu cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o reoli’r amgylchedd morol. Mae ACA Sir Benfro Forol yn cwmpasu ardal helaeth a, fel sy’n wir am yr amgylchedd morol yn gyffredinol, mae yna lawer o bethau nad ydym yn eu gwybod o hyd am y bywyd morol sy’n byw yma. Os ydych chi allan ar grwydr ar yr arfordir, ar y dŵr neu o dan y dŵr, gallwch helpu gwella ein dealltwriaeth o rywogaethau morol a’u hanghenion rheoli, trwy adrodd am yr hyn yr ydych chi wedi’i ddarganfod.
Gallwch adrodd am yr hyn a welwch chi yn Sir Benfro trwy gysylltu’n uniongyrchol â Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ond cofiwch, mae croeso i chi gysylltu â ni hefyd gydag unrhyw beth anarferol yr ydych wedi’i weld neu os nad ydych chi’n gwybod beth ry’ch chi wedi’i ddarganfod – byddai’n wych clywed gennych.
Dyma brosiectau a mentrau eraill y gallwch gymryd rhan ynddynt:

Dyfrgwn
Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n gweld dyfrgwn yn Sir Benfro i ddweud wrthym, trwy adrodd yn uniongyrchol wrth Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Cofiwch ddweud a ydych wedi gweld yr anifail neu olion neu faw, neu anifail wedi’i ladd ar yr heol. Ond da chi, cysylltwch â ni , hefyd, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn ddigon ffodus i gymryd ffotograff o ddyfrgi – buasen ni wrth ein bodd i glywed gennych.

Teulu’r Morfilod (dolffiniaid, morfilod a llamhidyddion)
Adroddwch am unrhyw ddolffin, morfil neu lamhidydd yr ydych wedi ei weld, er mwyn helpu monitro a deall eu niferoedd a’u lleoliadau yn well: www.seawatchfoundation.org.uk/sightingsform/.

Bywyd morol a anafwyd
Er mwyn adrodd am fywyd gwyllt morol wedi’i anafu yn Sir Benfro, cysylltwch ar frys â:
- Wales Marine Life Rescue 07970 285086 neu 01646 692943,
- Llinell gymorth yr RSPCA 0300 1234 999 neu
- Llinell gymorth British Divers Marine Life Rescue 01825 765546 (yn ystod oriau swyddfa); 07787 433412 (tu allan i oriau swyddfa).
Cewch gyngor am yr hyn ddylech chi ei wneud.

UK Cetacean Strandings Investigation Programme (CSIP)
Os digwydd i chi ddod ar draws dolffin, morfil, llamhidydd, morlo, heulforgi neu grwban y môr sydd wedi marw, ar hyd yr arfordir, cysylltwch â CSIP ar http://www.strandings.com/ i ddweud amdano. Os yw’r anifail yn fyw o hyd, dylech adrodd amdano ar unwaith fel byddech chi’n ei wneud ar gyfer bywyd morol sydd wedi cael ei anafu.
Wrth adrodd am anifail marw, rhowch ddisgrifiad clir o’r lleoliad, y rhywogaeth os ydych yn gwybod beth ydyw, hyd yr anifail a’i gyflwr yn gyffredinol (er enghraifft ffres, neu wedi pydru tipyn). Gan ddibynnu ar y lleoliad a’r cyflwr, efallai y bydd y tîm yn mynd i gasglu’r anifail er mwyn ei archwilio mewn post-mortem, i sefydlu beth sydd wedi achosi’r farwolaeth.
Gallwch hefyd ddweud am anifail sydd wedi marw drwy ffonio 0800 652 0333 neu drwy Facebook.
Gallwch anfon unrhyw luniau o’r anifail hefyd at info@strandings.com.

Crwbanod y Môr
O’r saith rhywogaeth crwban y môr yn y byd, mae chwech wedi cael eu gweld yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Dyma’r rhywogaethau hynny: y môr-grwban cefn-lledr, y môr-grwban pendew, môr-grwban pendew Kemp, môr-grwban olif ridley, y môr-grwban gwyrdd a’r môr-grwban gwalchbig.
Y môr-grwban cefn-lledr, y môr-grwban mwyaf, yw’r rhywogaeth a gofnodir amlaf yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Bob haf, mae’r môr-grwbanod cefn-lledr yn mudo i ddyfroedd y Deyrnas Unedig lle maent yn bwydo ar slefrenni môr. Mae Marine Conservation Society yn awyddus i gofnodi’r môr-grwbanod a welir ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Maen nhw hefyd yn cofnodi slefrenni môr a welir. Wildlife sightings Marine Conservation Society (mcsuk.org).

Project Seagrass
Helpwch Project Seagrass i ddeall dosbarthiad ac iechyd morwellt yn well trwy rannu gwybodaeth am y morwellt yr ydych wedi’i weld ar fap o’r enw Seagrass Spotter: www.seagrassspotter.org/map. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Project Seagrass ar www.projectseagrass.org.

The Great Eggcase Hunt
Mae llawer o rywogaethau o elasmobranciaid (siarcod a chathod môr) yn dodwy masglau wyau a elwir yn chwilerod. Pan fyddan nhw’n wag, maen nhw’n aml yn golchi i fyny ar y lan, yn enwedig ar hyd y draethlin. Trwy adnabod ac adrodd am y masglau hyn, gallwch helpu Shark Trust i ddeall amrywiaeth a dosbarthiad siarcod yn well. Gellir cofnodi masglau wy tanddwr y mae snorclwyr a deifwyr yn eu gweld hefyd. Cofnodwch yr hyn rydych chi wedi’i weld ar www.sharktrust.org/great-eggcase-hunt.

Prosiect Maelgi: Cymru
Nod y prosiect hwn yw deall y Maelgi (Squatina squatina), sydd dan fygythiad difrifol, yn well, a’i ddiogelu, trwy ymgysylltu â physgotwyr, treftadaeth a gwyddoniaeth dinasyddion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a sut y gallwch chi gymryd rhan, ar www.angelsharknetwork.com/cymru/.

Rhywogaethau Estron Goresgynnol
Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn anifeiliaid neu’n blanhigion sydd wedi cael eu cyflwyno o rannau o’r byd, lle nad ydynt yn bodoli’n naturiol. Maen nhw’n gallu niweidio’r amgylchedd, yr economi, iechyd a’r ffordd yr ydyn ni’n byw. Er mwyn ein helpu i ddeall effaith rhywogaethau estron goresgynnol, a’u lleihau, gallwch adrodd am unrhyw beth yr ydych wedi’i weld trwy ddweud wrth gorff o’r enw GB Non-native Species Secretariat www.nonnativespecies.org. Gellir lleihau lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol trwy ddilyn ymgyrchoedd bioddiogelwch fel Edrych, Golchi, Sychu (www.nonnativespecies.org/checkcleandry/).

Pryderon am droseddau yn erbyn bywyd gwyllt
Er mwyn adrodd am achosion di-hid o darfu ar fywyd gwyllt y môr, neu amheuaeth o droseddau eraill yn erbyn bywyd gwyllt, ffoniwch: 101 (rhif yr heddlu ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng).

Pryderon am lygredd neu weithgareddau
Os oes gennych amheuaeth o lygredd, neu unrhyw bryderon am ddifrod i rywogaethau neu gynefinoedd bywyd gwyllt, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch icc@naturalresourceswales.gov.uk
