
Amdanom Ni
Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol yn un o’r safleoedd dynodedig morol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Fel llawer o ardaloedd morol, mae yna amrywiaeth aruthrol o bethau ar waith ar y safle ar unrhyw un adeg, gan gynnwys datblygiad, gweithgareddau hamdden, diwydiant a chadwraeth.
Oherwydd yr amrywiaeth helaeth hwn, rhaid i reolwyr y safle weithio i geisio taro cydbwysedd rhwng y gweithgareddau hyn a cheisio hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ac arfer gorau ymhob gweithgaredd. Y nod yn y pendraw yw helpu gwarchod yr amgylchedd morol a sicrhau ei fod yn parhau i gefnogi’r diddordebau a’r defnyddiau gwahanol niferus.

Cefndir
Yn sgil Uwchgynhadledd y Ddaear Rio 1992, gosodwyd bioamrywiaeth yn gadarn ar yr agenda gwleidyddol byd-eang. Mewn ymateb, mabwysiadwyd y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigion ac Anifeiliaid Gwyllt). Dyma’r ddeddfwriaeth y tu ôl i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a chaiff ei chyfleu yng nghyfraith y Deyrnas Unedig trwy’r Rheoliadau Cynefinoedd (Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y diwygiwyd).
Dynodir pob Ardal Cadwraeth Arbennig ar sail cynefinoedd a rhywogaethau penodol, a rhaid eu rheoli mewn ffyrdd sy’n helpu gwarchod y cynefinoedd a’r rhywogaethau hynny.
Nodwyd y safle fel Ardal Cadwraeth Arbennig Bosibl ym mis Mawrth 1995, ac i ddilyn cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus. Cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Ardal Cadwraeth Arbennig Bosibl Ynysoedd Sir Benfro i’r Comisiwn Ewropeaidd fel ymgeisydd Ardal Cadwraeth Arbennig ym mis Hydref 1997. Ailenwyd Ardal Cadwraeth Arbennig Ynysoedd Sir Benfro yn ystod y broses safoni yn 2000, a daethpwyd i’w galw’n Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol. Dynodwyd y safle’n derfynol ym mis Rhagfyr 2004.



