Lleden goch (Rohan Holt, CloudBase Productions Ltd)

Banciau Tywod Islanw

Mae’r nodwedd cynefin hon yn cynnwys mathau o waddod meddal sydd wedi eu gorchuddio drwy’r amser gan ddŵr bas y môr (yn gyffredinol llai na 20m o ddyfnder). Mae’r rhywogaethau a geir yn y math hwn o gynefin yn amrywio yn ôl y math o waddod a’r amodau ffisegol lleol. Mae twyni, tonnau a chrychiadau yn ficro-gilfachau pwysig yn y banciau tywod.

Mae yna sawl banc tywod pwysig yn yr ACA, gan gynnwys Banc Bais, Banc Turbot, banciau tywod yn ardal Sgogwm (Wild Goose Race a’r Knoll), a banciau tywod sy’n gysylltiedig ag Ynys Gwales (Grassholm). Mae yna fanciau tywod dyfnach hefyd sy’n gysylltiedig â’r Cerrig (Bishops & Clerks), Hats & Barrels a riffau Basleoedd Sain Gofan ac yng ngogledd-orllewin a de-orllewin Bae Sain Ffraid.

Mae pob banc tywod yn unigryw ac mae ganddo’i gymunedau nodweddiadol ei hun o rywogaethau. Fel arfer, mae anifeiliaid sy’n tyrchu, fel mwydod, cramenogion, cregyn dwygragennog ac ecinodermiaid (sêr môr a môr-ddraenogod) yn cytrefu gwaddodion tywodlyd, bas. Efallai y bydd corgimychiaid, crancod, malwod a physgod (fel llymrïaid – bwyd pwysig i adar) yn byw ar yr arwyneb. Gall y banciau hyn fod yn ardaloedd meithrin pwysig i bysgod ac yn dir bwydo pwysig i adar y môr. Mae’r banciau tywod dyfnach, mwy sefydlog, yn dueddol o fod yn gyfoethocach o ran rhywogaethau na’r banciau tywod mwy symudol, agored a bas.