Beth sy’n arbennig?
Dewiswyd ACA Sir Benfro Forol fel ardal sydd ag enghreifftiau Ewropeaidd rhagorol o’r ‘nodweddion cadwraeth’ canlynol. Y nodweddion cadwraeth, neu’r nodweddion o ddiddordeb, yw’r cynefinoedd a’r rhywogaethau y dynodwyd safle o’u herwydd. Mae safle Sir Benfro Forol yn amrywiol tu hwnt, gydag wyth math o gynefin sy’n nodweddion Atodiad I y Cyfarwyddeb Cynefinoedd a saith rhywogaeth sy’n nodweddion Atodiad II (bron â bod y rhestr hiraf o blith holl ACAau morol y DU).
Dyma ydynt:
Riffau
Aberoedd
Cilfachau a baeau mawr, bas
Fflatiau llaid a thywod
Traethellau islanwol
Dôlydd heli Iwerydd
Môr-lynnoedd
Ogofâu
Morloi Llwyd
Dyfrgwn
Llysywod Pendoll y Môr a’r Afon
Herlod a Gwangod
Tafol y traeth
Ceir disgrifiad byr o bob nodwedd cadwraeth isod. Am ragor o fanylion ewch i’r dudalen unigol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu gwybodaeth am y nodweddion safle hyn, er mwyn ein helpu i ddeall sut maen nhw’n dod ymlaen ac i helpu adnabod unrhyw straen neu fygythiad y gallent fod yn eu hwynebu a rhoi sylw iddynt. Ceir rhai adroddiadau ar Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiadau tystiolaeth morol ac arfordirol.
Mae’r wybodaeth hon yn helpu adrodd am asesiadau o gyflwr nodweddion (gweler Cynnydd).
Wrth gwrs, mae casglu data o dan y dŵr yn fwy anodd nag edrych o gwmpas y tir. Mae gwybod beth sydd ble yn ddigon o her. Ceir arwydd o leoliad y nodweddion hyn ar y safle ar fap A3 o Sir Benfro Forol nad yw’n rhyngweithiol (cyfoethnaturiol.cymru).
Riffau
Yn ogystal ag ardaloedd helaeth o riffau creigiog tanddwr sy’n ymestyn oddi ar y lan o’r arfordir agored, gwyllt, gellir gweld riffau creigiog ar draws amgylchedd mwy cysgodol Dyfrffordd Aberdaugleddau. Ac mae riffau rhynglanw yn creu cyfleoedd gwych i archwilio pyllau trai!
Aberoedd
Mae aberoedd yn gilfachau arfordirol lle mae yna ddylanwad dŵr croyw sylweddol, yn gyffredinol. Maen nhw’n cynnwys sawl math gwahanol o gynefin ac mae’r llanw’n dylanwadu arnynt.
Cilfachau a baeau mawr bas
Fel arfer, mae cilfachau a baeau mawr bas yn ddaneddiadau mawr yn yr arfordir sydd, yn gyffredinol, wedi eu cysgodi’n well rhag symudiadau’r tonnau na’r arfordir agored, ac sy’n gymharol fas. Fel arfer, mae eu dyfnder cyfartalog llai na 30m.
Fflatiau llaid a thywod
Ar draethau tywodlyd ar yr arfordir agored a fflatiau llaid mewn ardaloedd cysgodol, mae yna rywogaethau niferus ac amrywiol, ymhell o olwg y byd ac ynghudd o dan y wyneb gan fwyaf.
Traethellau islanwol
Mae ardaloedd tywodlyd ar wely’r môr sydd wedi’u gorchuddio drwy’r amser â dŵr bas y môr, yn gartref i gymunedau cyfoethog o anifeiliaid. Gallant fod yn ardaloedd meithrin pwysig i bysgod ac yn dir bwydo i adar y môr.
Dolydd heli Iwerydd
Mae dolydd heli Iwerydd yn ffurfio rhannau canol ac uchaf morfeydd heli, lle mae’r llystyfiant wedi ei orchuddio gan y llanw ond yn llai aml ac am gyfnodau byrrach ar y tro.
Môr-lynnoedd
Mae môr-lynnoedd yn eangderau o heli arfordirol, bas, ac mae eu halltedd a chyfaint y dŵr ynddynt yn amrywio. Maen nhw wedi eu torri i ffwrdd yn rhannol neu’n gyfan gwbl oddi wrth y môr gan draethellau neu raean bras neu, yn llai aml, gan greigiau.
Ogofâu
Caiff ogofâu môr eu ffurfio pan fydd daeareg benodol ardal yn cael ei hindreulio a’i erydu i greu trosgrogau, holltiadau, ogofâu a thwneli.
Morloi llwyd
Morloi llwyd yw un o’r rhywogaethau lleiaf cyffredin o forloi yn y byd. Gellir dod o hyd iddynt ar y safle trwy gydol y flwyddyn. Caiff eu lloi bach eu geni yn eu cotiau gwyn tua mis Awst i fis Rhagfyr.
Dyfrgwn
Nid dim ond mamaliaid yr afon yw dyfrgwn. Maen nhw’n chwilota yn y môr o amgylch arfordir Sir Benfro hefyd.
Llysywod Pendoll y Môr a'r Afon
Mae llysywod pendoll yn fathau cyntefig o bysgod sydd â cheg sugno nodedig yn hytrach na genau, ac maen nhw’n wahanol i unrhyw bysgodyn arall yn y Deyrnas Unedig.
Herlod a Gwangod
Mae gwangod yn bysgod tebyg i benwaig sy’n treulio mwyafrif eu bywydau fel oedolion yn y môr, ond maen nhw’n cael eu geni ac yn atgenhedlu mewn afonydd (neu, weithiau, ar flaenau’r aberoedd).
Tafol y traeth
Mae tafol y traeth yn un o’r planhigion fasgwlaidd endemig sydd dan y mwyaf o fygythiad yn Ewrop. Y Deyrnas Unedig yw cadarnle’r byd ar gyfer y rhywogaeth hon. Heddiw, rydym yn gwybod bod tafol y traeth ar un safle yn yr ACA.