Gwsberen fôr (Sue Burton)

Ble mae’r safle?

Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol yn un o’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cwmpasu arwynebedd o 138,069 hectar. Dyma ddynodiad cadwraeth mwyaf Sir Benfro ac mae’n rhychwantu dros ddwywaith ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r safle’n cwmpasu’r ardal o Abereiddi yng ngogledd Sir Benfro yr holl ffordd ar hyd yr arfordir i Faenorbŷr yn ne Sir Benfro ac mae’n cynnwys arfordir ynysoedd Dewi, Sgomer, Gwales, Sgogwm, Y Cerrig (Bishops and Clerks), a’r Smalls (21 milltir oddi ar y lan). Mae hefyd yn cwmpasu’r cyfan, bron, o Ddyfrffordd Aberdaugleddau, hyd at y terfyn llanw.

Gan fwyaf, mae ffin yr Ardal Cadwraeth Arbennig tua’r tir yn dilyn y marc penllanw eithaf. Caiff ffiniau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig morol tua’r môr eu llunio mor agos â phosibl, i gynnwys y diddordebau sy’n eu gwneud yn gymwys, ond mewn llinellau syth rhwng tirnodau neu fwiau neu mewn ardaloedd o fôr agored, er mwyn sicrhau y gellir eu nodi’n hwylus ar siartiau mordwyo.

Ffordd ddefnyddiol o weld manylder y safle ar fap lleol yw defnyddio Wales Activity Mapping.

Ar wefannau Cyfoeth Naturiol Cymru a JNCC mae yna fapiau safle swyddogol a gwybodaeth. Yn ogystal, mae Porthol Cynllunio Morol Cymru yn offeryn mapio rhyngweithio ar gyfer data sy’n ymwneud â chynllunio morol yng Nghymru.

Map

Cliciwch i wneud yn fwy