Bywyd Gwyllt
Mae clogwyni môr a cheunentydd, gwastadeddau tywodlyd eang a llaid crychdonnog cyfoethog yn ymestyn i lawr o arfordir hardd Sir Benfro i’r dyfnderau islaw, lle maen nhw’n cynnig tirwedd danddwr sy’n cynnal byd cudd o fywyd rhyfeddol y môr.
Mae daeareg amrywiol gwely’r môr, yr amrywiad yn effaith y gwynt, y tonnau a’r cerhyntau llanw, a’r cyfuniad o ddyfroedd cynnes o’r de a dyfroedd oer o’r gogledd, yn uno i gynnig dewis helaeth o gartrefi gwahanol i fywyd morol Sir Benfro, a hynny uwchben y tonnau ac oddi tanynt. Dyma pam y mae cymaint yn arbennig am ACA Sir Benfro Forol.