Cadwraeth forol yn Sir Benfro
Yn Sir Benfro, mae cadwraeth forol yn arbennig o bwysig oherwydd mae’r amgylchedd morol ac arfordirol yn tanategu’r economi lleol. Mae economi Sir Benfro’n ddibynnol iawn ar dwristiaeth a hamdden, yn ogystal â’r gweithgareddau masnachol yn Nyfrffordd Aberdaugleddau. Rhaid edrych ar y buddion hyn, a’r ddyletswydd i ofalu am fywyd gwyllt morol y safle, gyda’i gilydd; allwn ni ddim eu hystyried yn unigol. Mae gofalu am amgylchedd morol Sir Benfro’n gyfrifoldeb rydyn ni’n ei rannu.
Er mai Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol yw’r dynodiad cadwraeth forol fwyaf cynhwysfawr yn Sir Benfro, mae yna rai eraill. Mae’r rhain yn ategu ymhellach at bwysigrwydd cadwraeth forol yn Sir Benfro. Ceir sawl math o Ardal Forol Warchodedig, i ddefnyddio term ambarél, ond mae pob un wedi ei chreu i gynnal iechyd a chynhyrchedd hirdymor ein hamgylchedd morol ac arfordirol.
Yn ogystal ag Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol, mae’r moroedd oddi ar Sir Benfro hefyd yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig eraill.
- Ardal Cadwraeth Arbennig Gorllewin Cymru Forol Mae’r safle hwn oddi ar arfordir Cymru o Benrhyn Llŷn yn y gogledd, i Sir Benfro yn y de-orllewin, ac mae wedi’i ddynodi’n ardal bwysig ar gyfer y Llamhidydd. Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Gorllewin Cymru Forol yn gorgyffwrdd ag Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol hyd at arfordir Castellmartin, gan gynnwys mynedfa Dyfrffordd Aberdaugleddau.
- Ardal Cadwraeth Arbennig Dynesfeydd Môr Hafren Dynodwyd y safle hwn hefyd ar sail y Llamhidyddion, ac mae’n ymestyn ar draws y dynesfeydd gorllewinol at Fôr Hafren, o Fae Caerfyrddin yn ne Cymru i arfordir gogleddol Dyfnaint a Chernyw. Mae ACA Dynesfeydd Môr Hafren yn gorgyffwrdd ychydig bach ag ymyl ddwyreiniol ACA Sir Benfro Forol o Freshwater East i Faenorbŷr.
- Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion Mae’r ardal hon yn enwog am ei phoblogaeth o Ddolffiniaid Trwynbwl ac wedi’i dynodi oherwydd pedair rhywogaeth a thri chynefin. Mae ffin ddeheuol y safle’n ymylu i mewn i Sir Benfro i Fae Ceibwr. Nid yw’n gorgyffwrdd ag ACA Sir Benfro Forol.
- ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd Dynodwyd y safle am chwe chynefin a phum rhywogaeth ac mae ei ffin orllewinol yn Ninbych-y-pysgod ac yn croestorri Ynys Bŷr. Nid yw’n gorgyffwrdd ag ACA Sir Benfro Forol.
Nod Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), a sefydlwyd o dan y Gyfarwyddeb Adar (Cyfarwyddeb 79/409/EEC a ddiwygiwyd yn 2009 i ddod yn Gyfarwyddeb 2009/147/EC), yw gwarchod adar. Dynodwyd sawl un yn Sir Benfro sy’n cwmpasu ardaloedd morol:
- AGA Sgomer, Sgogwm a Moroedd Penfro Dynodwyd i warchod y boblogaeth anferth o Adar Drycin Manaw sy’n bridio yma, ynghyd â niferoedd mawr o rywogaethau adar eraill, gan gynnwys y Pâl.
- AGA Grassholm Dynodwyd yr ardal hon oherwydd yr Hugan sy’n bridio yma mewn niferoedd sylweddol – dyma’r drydedd gytref fwyaf yn y Deyrnas Unedig.
- AGA Bae Caerfyrddin Yr Ardal Gwarchodaeth Arbennig gyntaf yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfan gwbl forol. Fe’i dynodwyd oherwydd y Fôr-hwyaden Ddu. Mae’r safle’n gorgyffwrdd yn sylweddol ag ACA Bae Caerfyrddin ac Aberoedd ond nid ACA Sir Benfro Forol.
Ar y cyd, mae’r ACAau a’r AGAau yn ffurfio rhwydwaith o safleoedd sy’n rhychwantu’r Undeb Ewropeaidd a gelwir hwy yn Natura 2000. Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2020, nid yw’r Deyrnas Unedig yn rhan o’r rhwydwaith Natura 2000, ond gellir cyfeirio at y safleoedd hyn fel Safleoedd Ewropeaidd o hyd neu, os ydynt yn safleoedd morol, yna’n Safleoedd Morol Ewropeaidd. Erbyn hyn cyfeirir atynt fel y rhwydwaith safleoedd cenedlaethol. Mae ACAau’r Deyrnas Unedig yn dal i gael eu gweld fel rhan o’r Rhwydwaith Emrallt o dan Gonfensiwn Bern.
Yr Ardal Forol Warchodedig hynaf a’r un sydd wedi ei hastudio orau yn Sir Benfro, yw:
- Parth Cadwraeth Morol Sgomer. Dynodwyd y dyfroedd o amgylch Ynys Sgomer a Phenrhyn Marloes fel y Parth Cadwraeth Morol (PCM) cyntaf yng Nghymru, yn 2014. Cyn 2014 yr ardal hon oedd unig Warchodfa Natur Forol Cymru, er 24 o flynyddoedd. Mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru’n monitro’r safle ac yn helpu i’w reoli. Mae gwybodaeth am y safle yn y ganolfan ddehongli yn Martin’s Haven ac ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Parth Cadwraeth Morol Sgomer
Ar hyd y draethlin, mae rhannau rhynglanw ACA Sir Benfro Forol hefyd yn gorgyffwrdd â sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Dynodwyd dan ddarpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y diwygiwyd). Mae Adran 28 y Ddeddf yn cyflwyno amrywiaeth o ddyletswyddau a phwerau i sicrhau bod Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu gwarchod a’u rheoli. Cyflwynwyd darpariaethau uwch ar gyfer gwarchod a rheoli Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Mae rhagor o wybodaeth am PCMau yng Nghymru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Ardaloedd morol gwarchodedig.