Cilfachau a baeau mawr bas
Mae’r nodwedd cilfachau a baeau mawr bas yn cynnwys amfae Bae Sain Ffraid, cilfach forol (neu ria) dyfrffordd Aberdaugleddau ac amfaeau ymylol sy’n cynnwys: Y Porth Mawr; South Haven, Sgomer; Gateholm – baeau Gorllewin Dale; Freshwater West.
Yn gyffredinol, mae gwely’r môr ym Mae Sain Ffraid yn goleddfu’n raddol tua’r gorllewin o’r fflatiau gwaddod ar ei lannau dwyreiniol. Yn rhannau allanol y Bae mae’r dyfnder yn cyrraedd 50m. Yn y Bae mae yna ystod eang o fathau gwahanol o waddod sy’n cynnal llawer o rywogaethau gan gynnwys anifeiliaid hir eu hoes sydd wedi’u claddu yn y gwaddodion ac sy’n byw ar arwyneb y gwaddodion.
Yn y gilfach fas sy’n ffurfio adran allanol dyfrffordd Aberdaugleddau mae yna rywogaethau sydd o ddiddordeb arbennig – morwellt a maerl. Mae maerl yn wymon coch calchaidd sy’n cydgloi i ffurfio strwythur latis llac sy’n cynnig lle byw defnyddiol i rywogaethau eraill. Mae yna welyau maerl ar hyd ochr ogleddol y ddyfrffordd. Morwellt yw’r unig blanhigyn blodeuol morol Prydeinig islanwol ac mae’n brin yng Nghymru.
Mae planhigion morwellt yn ffurfio dolydd sy’n sefydlogi’r gwaddod ac yn cynnig cysgodfa i bysgod. Ceir hyd i’r ardaloedd mwyaf o forwellt naturiol yn yr ACA yn North Haven, Ynys Sgomer a Bae Littlewick o fewn dyfrffordd Aberdaugleddau.
Yn 2020 cynhaliwyd treial adfer morwellt graddfa lawn cyntaf y Deyrnas Unedig ychydig oddi ar Dale. Plannwyd dros un filiwn o hadau mewn ardal o 2 hectar. Ceir manylion pellach y cynllun hwn ar y dudalen prosiectau.
Mae yna gytundeb gwirfoddol ar waith o fewn dyfrffordd Aberdaugleddau i warchod y gwelyau morwellt a maerl rhag gweithgarwch angori. Er mwyn darllen mwy am y parthau gwarchod cynefinoedd sensitif hyn, gweler y wybodaeth am y cod morol ar y dudalen prosiectau.