Dolffin cyffredin (Sue Burton)

Codau Ymddygiad

Mae codau ymddygiad yn cyflwyno canllawiau synhwyrol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt a sicrhau na thorrir deddfau’r Deyrnas Unedig sy’n gwarchod bywyd gwyllt.

Mae Cod Morol Sir Benro yn gwarchod teulu’r morfilod, morloi ac adar y môr y mae Sir Benfro yn enwog amdanynt, trwy godau ymddygiad gwirfoddol a chyfyngiadau ar fynediad tymhorol y cytunwyd arnynt. Mae gwybodaeth am godau a bywyd gwyllt, a mapiau sy’n dangos y cyfyngiadau ar fynediad yn yr ardal leol, ar gael. Mae’r holl wybodaeth yma, a mwy, ar gael yn Ap Crwydro Arfordir Cymru.

Yn gyffredinol, da chi, byddwch yn ofalus a chadwch bellter wrth fywyd gwyllt. Peidiwch â mynd at famaliaid y môr, gadewch iddyn nhw ddod atoch chi.

  • Cynlluniwch ymlaen llaw. Ceisiwch osgoi ardaloedd sensitif, niferoedd mawr o adar/morloi a safleoedd bridio tymhorol. Gwiriwch y cyfyngiadau ar fynediad y cytunwyd arnynt mewn ardaloedd penodol, cyn i chi fynd allan ar y dŵr.
  • Cadwch bellter. Os ydych yn mynd yn rhy agos, mae yna berygl i chi ofidio bywyd gwyllt, achosi iddynt adael eu hwyau neu eu rhai bach, eu blino neu eu hanafu.
  • Arafwch a thawelwch. Trwy arafu a mynd yn bwyllog, byddwch yn tarfu’n llai, yn enwedig ar deulu’r morfilod; mae twrw swnllyd yn gallu tarfu ar forloi ac adar y môr, yn enwedig pan fyddan nhw’n geni eu rhai bach, yn bwrw’u blew ac yn nythu.

Fforwm Arfordir Sir Benfro sy’n arwain y gwaith ar God Morol Sir Benfro, gyda chymorth partneriaid a Swyddog yr ACA. Mae gwybodaeth am godau morol ledled Cymru hefyd ar gael ar Moroedd Gwyllt Cymru.

Mae yna godau ymddygiad hefyd, i warchod cynefinoedd sensitif yn nyfrffordd Aberdaugleddau rhag palu am abwyd ac angori. Gweler y dudalen prosiectau .

Mae codau ymddygiad eraill, gan gynnwys codau ar gyfer pysgota â gwialen, ar gael gan Gyfoeth Naturiol Cymru / Teulu’r Cod Cefn Gwlad.

Cod morol logo