Trwyn fy nain (Sue Burton)

Cymryd rhan​

Gall bob un ohonom wneud gwahaniaeth. Trwy wneud y pethau bychain, gallwn sicrhau ein bod yn gwarchod rhywogaethau morol anhygoel a chynefinoedd pwysig, a hefyd yn gwarchod asedau economaidd sy’n bwysig ar gyfer yr ardal. Mae hefyd yn gyfle i fireinio enw da Sir Benfro, fel ardal o ansawdd amgylcheddol da. Mae ein gallu i reoli’r Ardal Cadwraeth Arbennig yn llwyddiannus yn dibynnu ar yr awdurdodau statudol, ond mae hefyd yn dibynnu ar bob un o randdeiliaid y safle, gan gynnwys cyrff sydd â diddordeb, defnyddwyr unigol a chymunedau lleol. Trwy reoli’r safle’n llwyddiannus, byddwn y sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu parhau i fwynhau ACA Sir Benfro Forol a’i defnyddio fel adnodd.

Dyma ambell ffordd y gallwch chi helpu gwneud gwahaniaeth:

  • Byddwch yn ymwybodol o’r bywyd gwyllt morol yn Sir Benfro. Trwy ymweld â’r wefan hon, rydych yn gwella’ch dealltwriaeth o’r hyn sydd ynghudd o dan y dŵr. Byddwch yn falch o’r hyn sydd yno, a rhannwch y wybodaeth honno gyda phobl eraill.
  • Adroddwch am y bywyd morol rydych chi wedi’i weld. Mae eich gwybodaeth chi’n werthfawr!
  • Ceisiwch ddeall sut y gallai’ch gweithgareddau chi achosi niwed i’r bywyd gwyllt morol a dilynwch y canllawiau a ddarperir mewn codau ymddygiad morol er mwyn lleihau’r niwed a bod yn rhywun sy’n defnyddio’r arfordir a’r môr mewn ffordd gyfrifol.
  • Os oes gennych unrhyw bryderon am effeithiau ar fywyd gwyllt, neu os ydych yn gweld unrhyw lygredd, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch icc@naturalresourceswales.gov.uk.
  • Os hoffech chi helpu gyda phrosiectau amgylcheddol ymarferol ar y tir, yna edrychwch ar gyfleoedd i wirfoddoli trwy Bartneriaeth Natur Sir Benfro a fydd yn gallu eich cysylltu chi â phrosiectau sydd ar y gweill gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru. Mae’r cyfleoedd i wirfoddoli yn amrywio o waith cadwraeth ymarferol a gwaith arolwg, i gymorth gweinyddol neu helpu mewn digwyddiadau. Mae Sea Trust hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynorthwyo gyda gwaith yn y môr.
  • Byddwch yn rhagweithiol a helpwch gadw’r amgylchedd morol yn rhydd o lygredd trwy lanhau’r traeth.
  • Bydd arferion amgylcheddol da yn helpu gwarchod yr holl adnoddau naturiol y mae pob peth yn byw yn dibynnu arnynt.
  • Ystyriwch eich ôl troed carbon a defnyddiwch lai o ynni.
  • Gwnewch ddewisiadau diogel, cynaliadwy wrth ddewis eich bwyd.
  • Ymhob peth, cofiwch arbed, ailddefnyddio a dim ond wedyn, ailgylchu.
  • Ceisiwch leihau eich defnydd o blastig untro yn benodol.
  • Ar ôl i chi gyfyngu ar eich gwastraff, sicrhewch ei fod yn cael ei waredu’n ddiogel (er enghraifft, peidiwch ag arllwys olew neu baent i lawr y sinc a’r draen).
  • Ceisiwch arbed dŵr a lleihau dŵr ffo.
  • Byddwch yn deithiwr cyfrifol a helpwch leihau lledaeniad rhywogaethau estron. Edrych, Golchi, Sychu
  • Cefnogwch fudiadau sy’n gweithio i warchod y cefnfor a dylanwadwch ar newid yn eich cymuned.
Seren fôr bigog (Rohan Holt, CloudBase Productions Ltd)