Dolydd heli Iwerydd
Mae morfeydd heli yn datblygu rhwng y marc dŵr uchel cymedrig a’r marc distyll mewn ardaloedd o waddodion meddal (mwd neu dywod mân) sydd wedi’u cysgodi’n weddol rhag symudiadau’r tonnau. Rhaid bod llystyfiant y forfa heli’n gallu goddef halen (haloffytig) er mwyn gallu goroesi pan fydd llanwau’n ei gorchuddio. Mae’r gallu i oddef yr heli yn creu cylchfaoedd o gymunedau planhigion gwahanol yn y forfa heli. Mae angen i’r planhigion hynny sy’n agosach at y dŵr isel allu goddef yr heli yn well, gan eu bod yn treulio mwy o amser o dan y llanw.
Mae dolydd heli Iwerydd yn ffurfio rhannau canol ac uchaf morfeydd heli, lle mae’r llystyfiant wedi ei orchuddio gan y llanw, ond yn llai aml ac am gyfnodau byrrach ar y tro. Nodwedd o lawer o ddyfrffordd Aberdaugleddau yw’r morfeydd heli a’r dolydd heli Iwerydd helaeth. Mae’r dolydd hyn y naill ochr a’r llall i’r ddyfrffordd ac yn ymestyn i mewn i faeau mawr, bas, Dale, Bae Angle, Sandy Haven, Afon Penfro ac ymhellach i fyny’r afon yn afonydd y Caeriw a’r Cresswell a Gorllewin a Dwyrain y Cleddau.
Cofnodwyd rhywogaethau sydd o bwysigrwydd arbennig o ran cadwraeth natur, gan gynnwys rhywogaethau trosiannol dolydd heli / morfeydd heli sy’n brin yn genedlaethol, o fewn yr ACA. Mae’r poblogaethau o rywogaethau morfa heli nodedig yn cynnwys lafant y môr, Llyrlys, Hocys y Morfa, yr Hesgen Fannog ac Ytbysen Las y Morfa. Mae ardal arbennig o dda am ddolydd heli Iwerydd yn Afon Penfro.