Y Dyfrgi (Jonathan Barker)

Dyfrgwn​

Dim ond un rhywogaeth dyfrgi sydd gennym ni yn y Deyrnas Unedig – Y Dyfrgi Ewrasiaidd, Lutra lutra. Mae’n gyffredin i ni gysylltu’r dyfrgi ag afonydd neu’r môr (a llynnoedd môr yn yr Alban). Ond, yn Sir Benfro, gwelir dyfrgwn yn aml ar yr arfordir ac yn nofio yn y môr. Anifail nosol ydyw gan fwyaf, ac felly mae’n fwy cyffredin gweld dyfrgwn gyda’r hwyr neu gyda’r wawr, ond maen nhw wedi cael eu gweld yn croesi traethau prysur ganol dydd hefyd!

Yn ôl cofnodion dosbarthiad baw’r dyfrgi ac adroddiadau gan bobl sydd wedi eu gweld, ceir hyd i’r dyfrgi ar draws yr ACA, o amgylch yr arfordir agored ac yn nyfrffordd Aberdaugleddau. Maen nhw i’w gweld gan amlaf mewn llefydd lle mae yna fynediad da at y môr, digon o goed a phrysg, nentydd lle mae modd golchi dŵr yr heli i ffwrdd, a lleoliadau bwydo da fel pyllau trai. Mae eu diet yn amrywiol ac yn cynnwys pysgod salmonid, cimwch yr afon, llysywod, llyffantod ac adar ifainc.

Mae sawl astudiaeth ymchwil arfordirol wedi cynyddu’r wybodaeth am ddyfrgwn yn yr ACA, ond croesewir unrhyw adroddiadau ychwanegol pan fydd pobl yn eu gweld, oherwydd mae yna lawer nad ydym yn ei ddeall o hyd. Caiff y rheiny sy’n gweld dyfrgwn yn Sir Benfro eu hannog i adrodd am yr hyn maen nhw wedi’i weld yn uniongyrchol, trwy ddweud wrth Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Ond da chi, cysylltwch â ni , hefyd, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn ddigon ffodus i gymryd ffotograff o ddyfrgi – buasen ni wrth ein boddau i glywed gennych.

Y Dyfrgi (Sue Burton)