Eisiau gwybod beth i’w weld ble?
Gallwch gael syniad o leoliad nodweddion cadwraeth yn yr ACA ar fap A3 Sir Benfro Forol sydd ddim yn fap rhyngweithiol (cyfoethnaturiol.cymru) Ond, os hoffech gael rhagor o fanylion am rywogaethau penodol, mae gwybodaeth am rai o’r enghreifftiau o fywyd gwyllt yn yr ACA wedi ei chynnwys yn
Ap Crwydro Arfordir Cymru. Mae yna adran arbennig am lannau creigiog, a gallwch ddod o hyd i wybodaeth am forloi llwyd a mamaliaid morol eraill fel dolffiniaid a morfilod hefyd. Ar yr Ap mae yna wybodaeth am blanhigion ac anifeiliaid arfordirol yn ogystal ag archaeoleg forwrol.
Gallwch weld gwybodaeth am rai enghreifftiau o’r bywyd gwyllt morol yn Sir Benfro ar Moroedd Gwyllt Cymru hefyd ac mae yna galendr bywyd gwyllt sy’n gymorth i wybod pryd y gallech weld rhywogaethau penodol. Ceir canllawiau hefyd ynghylch sut i darfu cyn lleied â phosibl ar y rhywogaethau hyn trwy ddilyn codau ymddygiad. Gweler y wybodaeth am y cod morol ar y dudalen prosiectau.