Fflatiau llaid a thywod
Mae fflatiau llaid a thywod rhynglanw yn ffurfio rhan fawr o’r aberoedd a’r amfaeau, ond maen nhw hefyd i’w gweld ar yr arfordir agored. Maen nhw’n cysgodi cymunedau mawr ac amrywiol o anifeiliaid a phlanhigion ac felly maen nhw’n arbennig o bwysig fel tiroedd bwydo i adar gwyllt a rhydwyr.
Ar draethau tywodlyd ar yr arfordir agored, sy’n aml yn cael eu curo’n ddidrugaredd gan donnau cryfion, mae yna fôr-ddraenogod tyrchol, cregyn dwygragennog, a mwydod, ac maen nhw’n cynnal sêr môr crwydrol a llawer o rywogaethau o bysgod.
Ceir tywod mwy mân a mwdlyd lle mae yna rywfaint o gysgod rhag symudiadau’r tonnau. Mae’r rhywogaethau sydd i’w gweld yma’n aml yn gallu cynnwys cocos, cyllyll môr, lygwns a morwellt/gwellt y gamlas. Mae gwellt y gamlas rhynglanw yn blanhigyn blodeuol morol sy’n brin yn genedlaethol. Mae ardaloedd o’r fath hefyd yn bwysig fel ardaloedd meithrin i bysgod fel draenogiaid môr a hyrddiaid.
Mae fflatiau llaid yn ffurfio yn ardaloedd mwyaf cysgodol yr arfordir, fel arfer mewn aberoedd sydd â digonedd o laid o’r afonydd sy’n draenio i mewn iddynt. Oherwydd natur gysgodol yr ardaloedd hyn, mae’r gwaddod yn sefydlog ac yn cael eu dominyddu gan fwydod gwrychog, cregyn dwygragennog amrywiol a môr-falwod.
Fflatiau’r Gann, ger Dale, yw’r safle gwaddod rhynglanw sydd fwyaf amrywiol yn fiolegol yn yr ACA, er gwaethaf y ffaith iddo gael ei ddefnyddio’n helaeth i balu am abwyd. Mae’r ardal hon, sydd ag is-haen gymysg iawn, yn cynnwys un o’r cymunedau graean mwdlyd cyfoethocaf yng Nghymru. Mae yna God Ymddygiad ar waith ar gyfer palu am abwyd yn y Gann, wedi llawer o ymchwil ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Gweler y wybodaeth am y cod morol ar y dudalen prosiectau.