Gwaith y Cod Morol
Cod Morol Sir Benfro
Mae Cod Morol Sir Benfro yn gwarchod y morfilod, y morloi ac adar y môr y mae Sir Benfro yn enwog amdanynt, trwy godau ymddygiad gwirfoddol a chyfyngiadau tymhorol ar fynediad y cytunwyd arnynt. Trefnir hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr awyr agored a’r rheiny sy’n rhedeg teithiau, er mwyn trosglwyddo gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth. Caiff gwybodaeth am y cod a’r bywyd gwyllt, a mapiau sy’n dangos cyfyngiadau lleol ar fynediad, eu rhannu’n eang. Mae’r holl wybodaeth yma, a mwy, ar gael yn Ap Crwydro Arfordir Cymru. Mae yna adran arbennig am lannau creigiog, a gallwch ddod o hyd i wybodaeth am forloi llwyd a mamaliaid morol eraill fel dolffiniaid a morfilod hefyd. Ar yr Ap mae yna wybodaeth am blanhigion ac anifeiliaid arfordirol, yn ogystal ag archaeoleg forwrol. Fforwm Arfordir Sir Benfro sy’n arwain y gwaith ar God Morol Sir Benfro, gyda chymorth partneriaid a Swyddog yr ACA.
Mae gwybodaeth am godau morol ledled Cymru hefyd ar gael ar Moroedd Gwyllt Cymru.
Cod ymddygiad palu am abwyd y Gann
Mae effeithiau negyddol palu am abwyd ar Fflatiau’r Gann wedi bod yn destun pryder i Ganolfan Astudiaethau Maes Caer Dale a thrigolion lleol ers degawdau. Dangosodd astudiaeth a gomisiynwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn 2007-2009 fod lefel y palu yn ddwys yn y Gann a darparodd rywfaint o dystiolaeth feintiol o weithgarwch ac effeithiau. Yn 2013, comisiynodd Grŵp yr Awdurdodau Perthnasol ACA Sir Benfro Forol adroddiad i egluro’r drefn ddeddfwriaethol ar gyfer rheoli palu am abwyd. Yn dilyn hyn, ac fel cam cyntaf, cytunwyd ar god ymddygiad, gan weithio gyda rhanddeiliaid a oedd yn cynnwys defnyddwyr a’r gymuned leol, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl wrth balu am abwyd.
Diweddarwyd y cod yn dilyn adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru am effeithiau palu am abwyd ar y Gann. Ar hyn o bryd, rheolir y safle trwy arwyddion a marcwyr i godi ymwybyddiaeth, ac wrth i asiantaethau statudol fonitro cydymffurfiaeth â’r cod. Mae pobl yn dal i dorri’r cod a phalu’n ddwys am abwyd.
Parthau gwarchod cynefinoedd sensitif Dyfrffordd Aberdaugleddau
Cytunwyd ar y parthau gwarchod cynefinoedd sensitif gwirfoddol, a ddatblygwyd gyda’r nod o warchod y gwelyau maerl a morwellt yn y Ddyfrffordd rhag gweithgarwch angori, dros aeaf 2013, yn dilyn trafodaethau gyda Chymdeithas Defnyddwyr Porthladd Aberdaugleddau. Ceir gwybodaeth bellach yn y dogfennau isod.
Gosodwyd dau fwi angori ar gyfer ymwelwyr dydd (sy’n eiddo i Borthladd Aberdaugleddau) yn 2015 ym Mae Longoar, er mwyn cynnig cyfleuster i gychod ar ymweliad a’u hannog i beidio ag angori o fewn y ddôl forwellt fechan yno.