Croeso i Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol
Yn y fan hon, gallwch ddysgu am ardal forol Sir Benfro, y bywyd morol anhygoel ac amrywiol sy’n byw yma, yr hyn sy’n cael ei wneud i warchod y bywyd gwyllt hwnnw, a’r hyn y gallwch chi ei wneud i helpu gofalu am y safle i’w warchod ar gyfer y dyfodol.
Mae dynodiad Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol yn cydnabod bod yr ardal yn un o’r gorau yn Ewrop am ei bywyd gwyllt morol. Ond, yn yr ardal hon hefyd, mae un o’r porthladdoedd prysuraf yn y Deyrnas Unedig. Mae’n bwysig am ei physgodfeydd ac mae’r arfordir anhygoel yn denu nifer fawr o ymwelwyr.