Machlud dros yr aber (John Archer-Thomson)

Herlod a gwangod

Mae herlod a gwangod yn bysgod tebyg i benwaig sy’n treulio mwyafrif eu hoes fel oedolion yn y môr, ond maen nhw’n silio mewn afonydd (neu, weithiau, ym mlaenau’r aberoedd), ac fel arfer maen nhw’n mudo trwy aberoedd yn ystod misoedd y gwanwyn ar eu ffordd at y tir silio. Gellir gweld y gwahaniaeth rhwng rhywogaethau yn ôl eu maint (fel arfer mae herlod, Alosa alosa, rhwng 30 a 50cm, ac mae gwangod, Alosa fallax, rhwng 25 a 40cm), a hefyd nifer y cennau sy’n rhedeg ar hyd y llinell ochrol a nifer y cribau tegyll ar y bwa tagell cyntaf.

Prin yw’r cofnodion o herlod a gwangod yn yr ACA. Ystyrir bod y ddwy rywogaeth yn brin yn genedlaethol ac yn fregus, a mwy felly’r herlod na’r gwangod. Mae gwaith cenedlaethol ar y cyd yn ceisio adnabod afonydd a safleoedd silio allweddol ar gyfer y ddwy rywogaeth.

Mae’r ddwy rywogaeth yn agored i gael eu niweidio gan bysgota (fel sgil-ddaliad), llygredd, a rhwystrau yn yr afon sy’n eu hatal rhag mudo (yn enwedig gan fod eu cyrff gwrymiog, dwfn, yn eu hatal rhag defnyddio llwybrau pysgod). Mae’n drosedd rhwystro mynediad at ardaloedd silio yn fwriadol, neu ddifrodi neu ddinistrio graean a ddefnyddir i silio.

Gwangen