Llysywod pendoll
Mae llysywod pendoll yn fathau cyntefig o bysgod sydd â cheg sugno nodedig yn hytrach na genau, ac maen nhw’n wahanol i unrhyw bysgod eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae llysywod pendoll, sy’n debyg i lysywod, yn parasiteiddio pysgod eraill; trwy lynu eu hunain at bysgod byw, mae llysywod pendoll yn rhathellu i mewn i’r cnawd ac yn bwydo ar hylifau’r corff.
Mae llysywod pendoll y môr (Petromyzon marinus) a llysywod pendoll yr afon (Lampetra fluviatilis) yn bysgod sy’n cael eu geni mewn dŵr croyw, ac yn treulio mwyafrif eu hoes yn yr heli, ac yna’n dychwelyd (mudo) at ddŵr croyw i atgenhedlu.
Ar ôl tua phum mlynedd mewn dŵr croyw, mae llysywod pendoll yr afon yn treulio blwyddyn neu ddwy yn y môr (fwy na thebyg ger y lan) cyn mudo yn ôl i fyny’r afon, gan gael reid o bosibl (a chael pryd o fwyd ar yr un pryd) gan bysgodyn arall. Dydyn nhw ddim yn bwydo unwaith y byddan nhw wedi cyrraedd dŵr croyw ac mae nhw’n silio ym mlaenau’r afon y gwanwyn canlynol.
Mae llysywod pendoll y môr yn fwy o faint na llysywod pendoll yr afon, ond mae eu cylch bywyd yn debyg. Ond, maen nhw’n mentro ymhellach allan i’r môr ac yn silio yn rhannau is yr afonydd o gymharu â llysywod pendoll yr afon.
Er mai prin y cofnodwyd bod llysywod pendoll ar y safle, rydym yn gwybod bod poblogaethau yn Afonydd y Cleddau.
Mae llygredd a rhwystrau sy’n eu hatal rhag mudo (er enghraifft argloddiau a choredau) yn gallu achosi dirywiad yn niferoedd y ddwy rywogaeth.