Cocosen bigog (Sue Burton)

Môr-lynnoedd

Mae môr-lynnoedd yn eangderau o heli arfordirol, bas, ac mae eu halltedd a chyfaint y dŵr ynddynt yn amrywio. Maent wedi eu torri i ffwrdd yn rhannol neu’n gyfan gwbl oddi wrth y môr gan draethellau neu raean bras neu, yn llai aml, gan greigiau. Gallai’r halltedd amrywio o ddŵr lled-hallt i hallt iawn, gan ddibynnu ar y glaw sydd wedi disgyn, anweddiad ac ychwanegiad dŵr y môr yn sgil stormydd, llifogydd dros dro yn y môr yn ystod y gaeaf neu newid rhwng llanw a thrai. Mae morfeydd heli yn rhan o’r system gymhleth hon.

Ceir tri môr-lyn arfordirol bychan o fewn aberoedd rhai isafonydd yn nyfrffordd Aberdaugleddau:

  • Môr-lyn Pickleridge ar aber y Gann (sefydlwyd fel môr-lyn heli rhwng y 1950au a’r 1980au);
  • Pwll Cored Neyland yn Westfield Pill (sefydlwyd fel pwll heli yng nghanol y 1980au); a
  • Pwll Melin Caeriw ar yr Afon Caeriw (dyddiad sefydlu yn gynnar yn y 1600au o leiaf, hanes o wacau trwy lifddorau yn amrywio gydag amser).

Mae pob un yn gynefin lled-naturiol sydd wedi cael eu creu trwy adeiladu strwythurau artiffisial y maent yn datblygu tu ôl iddynt.

O bosibl, Môr-lyn Pickleridge sydd â’r boblogaeth fwyaf o Gocos Morlyn yng Nghymru.

Morlyn, Pickleridge (Blaise Bullimore)