Morlo llwyd benywaidd wrth ymyl y dŵr (Kate Lock - Cyfoeth Naturiol Cymru)

Morloi Llwyd

Gellir gweld morloi llwyd, Halichoerus grypus, ar y safle trwy gydol y flwyddyn, ac maen nhw’n arbennig o amlwg pan fydd y llanw’n isel. Bryd hynny gellir eu gweld yn aml yn bolaheulo ar y creigiau. Y llefydd gorau i weld morloi yw’r ynysoedd oddi ar y lan, er, maen nhw’n mentro i ddyfrffordd Aberdaugleddau ac wedi cael eu gweld yn bwydo yn aber y Daugleddau.

Mae morloi llwyd yn bridio ar draethau digyffro o gerrig crynion a chlogfeini, ac ar draethau o gerrig crynion yn yr ogofâu môr ar hyd yr arfordir. Maen nhw’n geni eu rhai bach o fis Awst i fis Rhagfyr a mis Medi a mis Hydref yw’r misoedd prysuraf. Mae’r lloi bach yn dueddol o gael eu geni yn gynharach ar Ynys Dewi nag ar Ynys Sgomer. Ar ôl tair wythnos, mae’r lloi bach gwyn eu cotiau wedi bwrw’u blew ac yn barod i ymdopi â bywyd ar eu pennau eu hunain. Mae morloi yn eu llawn dwf yn ymgasglu mewn niferoedd mawr ar draethau rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror, er mwyn bwrw’u blew.

Er mwyn darllen mwy am leihau’r tarfu ar forloi, gweler y wybodaeth am y cod morol ar y dudalen prosiectau.

Y morlo llwyd yw un o’r rhywogaethau morlo lleiaf cyffredin yn y byd. Maint y boblogaeth yng ngorllewin Cymru, fel y pennir gan amcangyfrifon cenhedlu lloi, yw tua 5000 o unigolion. Maen nhw’n cynrychioli tua 4% o boblogaeth morloi llwyd y Deyrnas Unedig a thua 2% o boblogaeth morloi llwyd y byd. Y rhai o gwmpas arfordir gorllewin Cymru yw’r boblogaeth fridio fwyaf deheuol yn Ewrop.