Morwellt (John Archer-Thomson)

Morwellt Achub Cefnfor​

Ynghlwm â Morwellt Achub Cefnfor roedd Sky Ocean Rescue, WWF, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Fforwm Arfordir Sir Benfro a Swyddog ACA Sir Benfro Forol a dyma oedd y prosiect adfer morwellt graddfa-lawn cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Nod y prosiect oedd adfer morwellt mewn ardal fechan arbrofol o ddau hectar (tua dau gae rygbi) ar y cyd â phobl leol yn Dale yng Ngorllewin Cymru yn ACA Sir Benfro Forol.

Rolau Fforwm Arfordir Sir Benfro a Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol oedd sicrhau bod defnyddwyr lleol a’r gymuned yn cyfrannu’n iawn, fel bod y rheiny sy’n mwynhau neu’n gweithio yn y môr o amgylch Dale yn cael y cyfle i rannu eu barn ac i helpu penderfynu ar y lleoliad ar gyfer yr arbrawf adfer.

Plannwyd dros un filiwn o hadau yn y safle adfer y cytunwyd arno oddi ar Dale yn ystod 2020. Mae bwiau’n marcio ffiniau’r safle ac mae yno fwiau angori i ymwelwyr fel cyfleuster ar gyfer cychod sydd ar ymweliad, er mwyn annog pobl i beidio ag angori o fewn y safle. Mae gwefan a sefydlwyd gan Grŵp Rhanddeiliaid Morwellt Dale yn derbyn rhoddion gwirfoddol ar-lein er mwyn i ddefnyddwyr helpu darparu’r bwiau i ymwelwyr yn y dyfodol ac i helpu rheoli’r safle.

Ym mis Medi 2021, daeth y gwaith monitro i’r casgliad fod y prosiect Morwellt Achub Cefnfor nawr ar sylfaen gref yn ecolegol, oherwydd gwelwyd bod y morwellt yn Dale yn cynyddu o ran dwysedd a nawr yn bodoli ar draws yr ardal adfer. Rhagwelir y bydd dwysedd y morwellt yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf ac mae angen ei fonitro’n barhaus er mwyn asesu hyn.

Collwyd cymaint â 92% o forwellt y Deyrnas Unedig, ac mae ei adfer yn hanfodol i iechyd y cefnfor. Mae gan forwellt fuddion sylweddol. Gall warchod arfordiroedd, ffiltro’r dŵr yn well, cynnal mwy o bysgodfeydd, cynyddu bioamrywiaeth ac ymladd newid hinsawdd. Mae rhagor o wybodaeth am forwellt a  gwaith parhaus Morwellt Achub Cefnfor ar gael gan Project Seagrass.

Gellir cysylltu â Grŵp Rhanddeiliaid Morwellt Dale trwy’r Cadeirydd Fil Marshall neu’r Ysgrifennydd (Swyddog yr ACA).

Diben y Grŵp Rhanddeiliaid hwn yw llunio siâp y Prosiect Morwellt Achub Cefnfor a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf a’r diweddaraf am gynnydd y prosiect. Mae cyfarfodydd y grŵp yn fforwm sy’n hwyluso sylwadau a thrafodaethau a gellir codi cwestiynau a rhoi atebion, ac mae’n gymorth i oleuo ac egluro camau nesaf y prosiect. Grŵp cynghori ydyw, ac nid corff sy’n gwneud penderfyniadau, ond gall ddylanwadu ar rai elfennau o’r prosiect. Bydd aelodau’r Grŵp yn dod i gyswllt â phartneriaid y prosiect a Phrifysgol Abertawe fel y corff arweiniol ac yn sicrhau bod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a’r Grŵp yn cael ei gynnal a bod prosesau’n dryloyw a’r gymuned ehangach yn eu deall. Gweler Amodau Gorchwyl y grŵp.

Mae’r wybodaeth o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd fel a ganlyn:

  • 9 Mawrth 2022 – Grŵp Rhanddeiliaid Morwellt Dale Nodiadau
  • 15 Rhagfyr 2021 – Grŵp Rhanddeiliaid Morwellt Dale Nodiadau a Chyflwyniad
  • 3 Mawrth 2021 – Grŵp Rhanddeiliaid Morwellt Dale Nodiadau
  • 23 Tachwedd 2020 – Grŵp Rhanddeiliaid Morwellt Dale Nodiadau a Chyflwyniad am y Diweddaraf
  • 14 Gorffennaf 2020 – Grŵp Rhanddeiliaid Morwellt Dale Nodiadau  a Chyflwyniad yn dangos y diweddaraf am y morwellt a lleoliad angori ymwelwyr – sleidiau

Cysylltwch â Swyddog yr ACA am ragor o wybodaeth am y prosiect, cynllunio ymgysylltiad â rhanddeiliaid, a’r gwersi a ddysgwyd.

Bwi arwydd i ddangos morwellt, Dale (Sue Burton)