Mwy o fywyd gwyllt morol
Efallai mai ar gyfer rhywogaethau ac chynefinoedd penodol yn unig y dynodwyd ACA Sir Benfro Forol, ond mae yna lawer mwy i’w ddarganfod o fewn ei ffiniau.
Mae dynodiadau Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig eraill sy’n gorgyffwrdd (gweler Cadwraeth forol yn Sir Benfro) yn tanlinellu pwysigrwydd y moroedd oddi ar Sir Benfro i lawer o adar y môr a’r Llamhidydd. Mae Sea Trust wedi gweithio’n ddiflino i gasglu data am y Llamhidydd ac mae’n cynnal Prosiect Lluniau Adnabod y Llamhidydd sy’n brosiect gwyddoniaeth dinasyddion.
Cefndryd mawr i’r Llamhidydd yw’r dolffiniaid niferus sy’n pasio trwy’r ACA. Dolffiniaid cyffredin a welir gan amlaf, ond mae’r Dolffin Trwynbwl a’r Dolffin Llwyd hefyd i’w gweld yn rheolaidd. Gwelir morfilod yn aml hefyd, yn enwedig Morfilod Minke.
Ymhellach oddi ar y lan ar ymyl y Dyfnderoedd Celtaidd mae’r rhywogaethau a welwyd yn cynnwys Morgwn Glas, Heulforgwn, Morfilod Asgellog, Tiwnaod Asgell Las, Pysgod yr Haul a hyd yn oed ambell Fôr-grwban Lledraidd. Dydych chi byth yn gwybod beth allech chi fod yn ddigon ffodus i’w weld, hyd yn oed yn agos at y tir.