Ogofâu
Yn ddaearegol, mae morlin Sir Benfro yn gymhleth, o ran yr ystod o fathau o graig a chymhlethdod y ffawtiau a’r plygiadau. Mae yma lawer o ogofâu môr hefyd.
Mae ogofâu rhynglanw sydd wedi eu boddi’n rhannol, wedi eu dosbarthu’n eang ar hyd yr arfordir creigiog, ac mae’r crynodiadau mwyaf sy’n wybyddus ar Benrhyn Tyddewi, Ynys Dewi, Ynys Sgomer ac arfordir Castellmartin.
Nid ydym yn gwybod llawer am ddosbarthiadau ogofâu môr boddedig; mae’r rhai prin yr ydym yn gwybod amdanynt wedi cael eu dogfennu am iddynt gael eu darganfod ar hap. Mae maint ogofâu unigol yn amrywio o rai bach iawn (heb fod llawer yn fwy na throsgrogau caeedig, dwfn) i fawr iawn; a naill ai’n hir iawn (fel Ynys Dewi, > 50 metr) neu’n uchel a llydan (fel calchfaen De Sir Benfro).
Fel arfer, mae ogofâu môr yn cynnal rhywogaethau sydd “allan o’u lle” oherwydd mae’r ogofâu’n cynnig ardaloedd sy’n ffisegol wahanol, er enghraifft maen nhw’n fwy tywyll ac yn fwy cysgodol na’r ardal tu allan i’r ogof. Mae rhywogaethau ogofâu yn amrywio gan ddibynnu ar y math o graig y mae’r ogof wedi ei thorri ohoni. Yn aml, mae angen iddynt allu goddef sgwrio’n dda iawn a goddef ymchwydd eithafol y tonnau.