Pam mae’r safle’n bwysig?
Mae amgylchedd morol iach yn hollbwysig i’n bywydau beunyddiol. Mae’n rhoi ocsigen i ni ei anadlu, bwyd i’w fwyta a hyd yn oed yn helpu’n hiechyd meddwl. Bob dydd, rydyn ni’n dysgu mwy am werth y byd tanddwr hwn; buddion fel amddiffyn rhag llifogydd a diogelu’r arfordir, cynhyrchion fferyllol, ysbrydoliaeth ar gyfer technoleg ac amsugno a storio carbon (secwestriad carbon).
Mae’r amgylchedd morol wedi bod yn elfen hanfodol o’n bodolaeth ers canrifoedd, ac felly mae’n rhan hollbwysig o’n diwylliant, ein heconomi, ein gorffennol a’n dyfodol. Mae wedi’i blethu i’n ffordd o fyw.
Mae’r Ardal Cadwraeth Arbennig yn cyfrannu at y gwaith o warchod bioamrywiaeth yn fyd-eang, a chydnabyddir pwysigrwydd nodweddion bywyd gwyllt y safle ar lefel ryngwladol. Trwy ofalu am yr Ardal Cadwraeth Arbennig, rydyn ni’n cyflawni targedau bioamrywiaeth a deddfwriaeth y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol ac yn genedlaethol. Rydyn ni hefyd yn helpu cynnal a chynyddu’r buddion niferus hynny sy’n gysylltiedig ag amgylchedd morol iach, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.