Cardiau rhywogaethau ar y traeth (Sue Burton)

Pecyn Gweithgareddau Ar Lan y Môr​

Mae’r Pecyn Gweithgareddau Ar Lan y Môr yn adnodd addysg forol dwyieithog a ddatblygwyd gan Swyddog yr ACA ar gyfer ysgolion Sir Benfro, grwpiau wedi’u trefnu a theuluoedd. Dangosir pa rannau sy’n berthnasol i blant 3-6 oed a phlant 6+. Mae’r pecyn hwn i bawb, waeth a ydynt ar daith ysgol neu ar lan y môr ar ymweliad gyda theulu neu ffrindiau.

Yn y pecyn hwn, mae yna syniadau ar gyfer gweithgareddau y gellir eu gwneud ar lan y môr, a syniadau ar gyfer gweithgareddau y gellir eu gwneud ar wahân i ymweliad â glan y môr. Wrth gwrs, rydym yn eich annog yn frwdfrydig i ymweld â glan y môr ac mae llawer o’r syniadau yn ddelfrydol fel gweithgareddau ar ôl ymweliad, ond mae’n bosibl dysgu llawer a mwynhau’r amgylchedd morol o bell hefyd. Ceir syniadau am weithgareddau ychwanegol sy’n defnyddio mathemateg a rhifedd, gwyddoniaeth a thechnoleg, dyniaethau, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, y celfyddydau mynegiannol, ac iechyd a lles.

Mae’r gweithgareddau yn yr adnodd hwn wedi’u rhyng-gysylltu a gall un gweithgaredd arwain at un arall. Gallwch ddilyn thema a gweithio trwy’r gweithgareddau mor fanwl ag y gallwch chi, neu efallai yr hoffech ddewis a dethol eich cyfuniad o weithgareddau eich hun.

Mae yna ambell adnodd sy’n sefyll ar ei ben ei hun a gallwch eu defnyddio i’ch helpu yn ystod ymweliad â’r glannau creigiog (Canllaw Chwilota’r Glannau Creigiog a’r Cardiau Rhywogaethau) neu draeth/draethlin (bingo’r traeth).

Mae’r Pecyn Gweithgareddau Ar Lan y Môr yn adeiladu ar waith blaenorol ar y cyd â Silent World a Chanolfan Darwin, pan aethpwyd â’r glannau creigiog i mewn i’r ystafell ddosbarth gyda Sioeau Teithiol Ymwybyddiaeth o’r Môr i Ysgolion, a ariannwyd gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Canllaw Chwilota'r Glannau Creigiog

Cliciwch i wneud yn fwy