
‘Pembrokeshire’s Plastics Problem’
‘Pembrokeshire’s Plastics Problem’ – Cyflwynir yr adnodd hwn gan Kate Lock ar gyfer Marine Conservation Society; Grŵp Lleol Sir Benfro ac fe’i crëwyd gan Robert Gibbs. Mae’r fideo byr wedi’i anelu’n bennaf at blant oed ysgol (fersiwn fach o “Message in the Waves” gyda blas lleol) ond mae hefyd yn tynnu sylw pobl o bob oed at y problemau y mae plastig yn gallu eu hachosi yn yr amgylchedd morol, a sut mae’n gallu torri i lawr yn ddarnau llai a llai a mynd i mewn i’r gadwyn fwyd yn y pendraw.
Gallwch ddod o hyd i adnoddau sy’n gysylltiedig â’r fideo hwn yn y Pecyn Gweithgareddau Ar Lan y Môr.