Cimwch, ar wely o gregyn gleision (Seasearch - David Kipling)

Menter Beilot Pysgod Cregyn Cynaliadwy Sir Benfro 

Roedd Menter Beilot Pysgod Cregyn Cynaliadwy Sir Benfro ar waith o 2016-2017 ac yn profi mesurau gwirfoddol i geisio gwella cynaliadwyedd wrth bysgota o fewn y fflyd botio leol. Ei nod oedd codi ymwybyddiaeth o’r materion amgylcheddol ac economaidd sy’n codi pan fydd cyfarpar statig yn pysgota’n anfwriadol, a mesurau gwirfoddol i wella cynaliadwyedd pysgota, a meithrin dealltwriaeth o’r materion hyn. Yn ystod y cynllun peilot, roedd cyfle i bysgotwyr gynnwys un neu fwy o dreialon yn eu harferion pysgota, a hynny heb unrhyw gost. Gofynnwyd iddynt roi adborth wedyn.

Roedd allbynnau’r prosiect hwn yn cynnwys:

Roedd yr addasiadau i gyfarpar a dreialwyd yn cynnwys:

  • Mecanweithiau sy’n atal pysgota anfwriadol (mae pysgota anfwriadol yn gallu digwydd pan fydd cyfarpar pysgota’n mynd ar goll) gan gynnwys sawl “dolen wan” mewn paneli a bachau potiau. Roedd y dolenni gwan yn cynnwys cylchoedd hollt, cylchoedd mochyn i atal pysgota anfwriadol, weiren ddur wedi’i gorchuddio â nicel a chlymau sach tato o weiren.
  • Paneli dianc (i amddiffyn pysgod ifainc trwy adael iddynt ddianc o’r pot). Treialwyd yr agoriadau dianc 43mm x 82mm, ac roedd “dolen wan” fioddiraddadwy yn rhai ohonynt fel bod y panel hefyd yn ddyfais i atal pysgota anfwriadol. Gosodwyd paneli gwag fel dyfais i atal pysgota anfwriadol, gydag elfen ddiraddadwy ar gyfer y rheiny a oedd eisiau cadw crancod nofiol a/neu gorgimwch.

Yn ogystal ag addasu cyfarpar, anogwyd pysgotwyr i weithio gyda’r grŵp deifio NARC  (Neptune’s Army of Rubbish Cleaners) i ddod o hyd i gyfarpar a gollwyd, gan leihau’r potensial ar gyfer pysgota anfwriadol.

Ariannwyd y fenter gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (a weinyddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) gyda chymorth mewn da gan 20 o bysgotwyr unigol a NARC, a mewnbwn gan Fforwm Arfordir Sir Benfro.

Pembrokeshire Sustainable Shellfish Initiative logo
Taflen grynodeb am fachau bioddiraddadwy

Cliciwch i wneud yn fwy