Rheolaeth
Dewiswyd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Sir Benfro Forol am fod yno rai o’r enghreifftiau gorau o gynefinoedd a rhywogaethau morol sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd. Mae hyn er gwaethaf y straen dwys ar yr amgylchedd morol yn lleol oherwydd gweithgareddau pobl, yn enwedig yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Y nod wrth reoli’r ACA yw cynnal ei bywyd morol amrywiol a chyfoethog mewn cyflwr cystal, o leiaf, â phan ddynodwyd y safle gyntaf, ac i wella hynny, gyda’r nod o ddod â phob rhywogaeth a chynefin a ddynodwyd i fyny i ‘Statws Cadwraeth Ffafriol’. Nid yw hyn yn golygu na allwn barhau i ddefnyddio adnoddau naturiol yr ardal a’u mwynhau, ond mae’n golygu bod unrhyw weithgareddau yn gorfod cael eu gwneud mewn ffordd gynaliadwy.
Pwy?
Mae rheoli’r amgylchedd morol ac arfordirol yn gallu bod yn dasg gymhleth ac nid oes un sefydliad yn gyfrifol am y morlin cyfan neu am yr holl weithgareddau a geir yma.
Rheolir yr ACA trwy Grŵp yr Awdurdodau Perthnasol, sef corff o fudiadau ac awdurdodau y mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol penodol arnynt i ofalu am y safle hwn. Fodd bynnag, mae llawer o bobl wahanol yn defnyddio’r ardal forol am ystod eang o resymau, ac ni fyddai’n bosibl rheoli’r ardal yn llwyddiannus heb fewnbwn unigolion a grwpiau diddordeb o amgylch y safle.
Dyma’r Awdurdodau Perthnasol ar gyfer ACA Sir Benfro Forol:
- Cyngor Sir Penfro (Cadeirydd)
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Porthladd Aberdaugleddau
- Trinity House
- Dŵr Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn rheolwr hanfodol amgylchedd morol Cymru a hefyd yn cael ei diweddaru.
Mae’n eithriadol o bwysig fod y sefydliadau hyn yn cydweithio oherwydd mae’r amgylchedd morol yn gyfrifoldeb sy’n cael ei rannu. Yn gyffredinol, mae awdurdodau perthnasol ACA Sir Benfro Forol yn cwrdd yn chwarterol i drafod anghenion rheoli ac i rannu gwybodaeth. Mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael gan Swyddog yr ACA.
Mae Swyddog yr ACA yn gweithio i Grŵp yr Awdurdodau Perthnasol. Rôl Swyddog yr ACA yw cydlynu rheolaeth yr ACA. Mae hyn yn cynnwys:
- Gweithio mewn partneriaeth.
- Sicrhau cyllid a datblygu a rheoli prosiectau er mwy lleihau’r effeithiau ar nodweddion y safle, gan weithio tuag at gyflwr ffafriol.
- Cynhyrchu, adolygu a diweddaru dogfennau’n ymwneud â rheolaeth y safle.
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Codi ymwybyddiaeth.
- Cynrychioli safleoedd ar lefel genedlaethol / rhwydwaith.
Am ragor o wybodaeth am yr ACA ac amgylchedd morol Sir Benfro, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog yr ACA.
Beth? Rheoli Gweithgareddau
Mae llawer o weithgareddau, fel pysgota neu ddatblygiadau, sydd ar waith o amgylch ACA Sir Benfro Forol, yn cael eu trwyddedu gan Awdurdodau Perthnasol unigol. Wrth roi caniatâd neu drwydded, rhaid i’r awdurdod ystyried unrhyw effeithiau posibl ar yr ardal warchodedig. Caiff gweithgareddau nad oes arnynt angen trwydded, er enghraifft gweithgareddau hamdden, eu rheoli ar y cyd.
Yn ymarferol, prin iawn yw’r gwahaniaeth y mae’r Safle Morol Ewropeaidd yn ei wneud i bobl o ddydd i ddydd. Yr unig weithgareddau y gallai effeithio arnynt yw’r rheiny sy’n cael effaith sylweddol ar y nodweddion o ddiddordeb. Ni fydd y rhan fwyaf o weithgareddau yn gwneud hyn ac felly ni fydd yn effeithio arnynt. Bydd y rheiny yr ystyrir eu bod yn fygythiad i’r nodweddion o ddiddordeb yn cael eu hasesu’n ofalus i weld sut y gellir osgoi unrhyw ffeithiau niweidiol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel cynghorydd statudol y llywodraeth ar warchod natur, yn darparu gwybodaeth am weithrediadau a allai ddifrodi nodwedd neu nodweddion yr ACA. Mae’r wybodaeth hon yn y pecyn cyngor ar gadwraeth, Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyngor Cadwraeth ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd (Rheoliad 37)
Mae’r Cydgynllun Rheoli ar gyfer y safle, sef dogfen gydweithredol, yn cyflwyno’r rheolaeth sydd ar waith, neu’r rheolaeth sydd wedi’i chynllunio, ar gyfer yr holl weithgareddau y gwyddant eu bod yn digwydd yn yr ACA neu ger yr ACA.
Sut? Cynllun Rheoli’r ACA
Cyhoeddwyd Cynllun Rheoli ar gyfer yr ACA yn 2008. Ei nod oedd cwmpasu’r holl waith y mae angen ei wneud er mwyn gofalu am y safle a’r rhywogaethau a’r cynefinoedd gwarchodedig a geir yma.
Roedd hon yn ddogfen gydweithredol a luniwyd ar y cyd gan yr Awdurdodau Perthnasol a fu’n cydweithio â defnyddwyr y safle a phob un a oedd â diddordeb. Mae angen diweddaru’r Cynllun Rheoli, ond mae llawer ohono’n dal i fod yn berthnasol. Mae’r Cynllun Gweithredu yn y Cynllun Rheoli yn cael ystyriaeth reolaidd ac yn ffurfio sylfaen rhaglen waith barhaus Grŵp yr Awdurdodau Perthnasol.
Tanategir y Cynllun Rheoli gan Amcanion Cadwraeth y safle, a gynhyrchwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyngor Cadwraeth ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd (Rheoliad 37)
Gellir lawrlwytho dogfennau’r Cynllun Rheoli oddi ar y dudalen lawrlwythiadau.
Sut? Rheoli Ehangach
Mae’r Cynllun Rheoli wedi ei gysylltu at Gronfa Ddata Gweithredoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rhestru gweithredoedd ar gyfer pob ACA yng Nghymru. Mae’r Cynllun Rheoli yn gweithio law yn llaw gyda’r gronfa ddata trwy ddarparu’r cyd-destun a’r rhesymeg ar gyfer y gweithredoedd sydd wedi eu nodi. Mae hefyd yn cynnwys yr holl weithredoedd y mae angen eu gweithredu i gynnal rheolaeth y safle, er enghraifft addysg, codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu.
Defnyddir Gweithredoedd o’r Cynllun Rheoli a’r Gronfa Ddata Gweithredoedd i lunio rhaglen waith ar gyfer y safle, ac yna mae’r rhaglen waith hon yn pennu’r prosiectau angenrheidiol.
Mae rhai o’r gweithredoedd yn lleol, ac efallai y bydd eraill yn gyffredin i ardaloedd morol gwarchodedig eraill ar draws y rhwydwaith, ac yn yr achos hwnnw maen nhw’n cael eu datblygu a’u gweithredu ar y cyd â’r safleoedd hynny (neu yn genedlaethol) fel sy’n berthnasol.