Anemoni pengrwn, gwrachen resog (Rohan Holt at CloudBase Productions Ltd)

Riffau​

Yn aml iawn, mae arwynebau creigiau tanddwr wedi eu mygu’n llwyr gan dywarchen ‘anifeilaidd’ o fatiau môr, hydroidau, sbyngau ac anemonïau. Mae’r rhywogaethau’n amrywio gan ddibynnu ar ddyfnder y dŵr, topograffeg y graig, y cyfeiriad y mae’n wynebu, pa mor agored ydyw i’r tonnau a’r llanw, a’r math o graig (daeareg). Os gymerwn ni riffau calchfaen sydd i’w gweld oddi ar arfordir de Sir Benfro fel enghraifft, mae arwyneb y graig yn fwy meddal a gall fod yn llawn mandyllau, craciau a holltiadau y gall anifeiliaid fyw ynddynt. Mae rhai anifeiliaid yn gallu tyllu i mewn i’r graig hefyd.

Mae yna anifeiliaid symudol yn byw ymhlith rhywogaethau disymud y riffau, er enghraifft cimychiaid, sêr môr, môr-wlithod, môr-ddraenogod a physgod tiriogaethol fel gwrachen y môr, sy’n newid ei rhyw.

Yn ogystal ag ardaloedd helaeth o riffau creigiog tanddwr sy’n ymestyn oddi ar y lan o’r arfordir agored, gwyllt, gellir gweld riffau creigiog ar draws amgylchedd mwy cysgodol Dyfrffordd Aberdaugleddau . Y darnau mawr o riff creigiog sydd i’w gweld ymhell i fyny’r afon yw un o nodweddion arbennig ac anarferol y ddyfrffordd. Mae riffau rhynglanw yn cwmpasu llawer o’r draethlin o fewn y safle (gan gynnig digon o gyfleoedd cyffrous i archwilio pyllau trai!).