Llifogydd a dŵr ffo oddi ar y tir (Sue Burton)

SWEPT
(Surveying the Waterway Environment for Pollution Threats)

Roedd SWEPT (Surveying the Waterway Environment for Pollution Threats) yn brosiect a enillodd wobrau ac a  fu’n gymorth i lunio darlun manwl o lefelau’r maetholion yn y dŵr croyw a oedd yn dod i mewn i ddyfrffordd Aberdaugleddau yn ACA Sir Benfro Forol, gan ddefnyddio gwyddoniaeth dinasyddion.

Roedd yn brosiect partneriaeth a arweiniwyd gan Swyddog yr ACA ac roedd yn cynnwys Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Canolfan Darwin a Chyfoeth Naturiol Cymru. Fe’i hariannwyd trwy grant gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Grŵp yr Awdurdodau Perthnasol ACA Sir Benfro Forol a chyfranogiad mewn da.

Roedd y prosiect ar waith o fis Gorffennaf 2018 hyd nes mis Rhagfyr 2019, a defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau lleol i recriwtio gwirfoddolwyr gwyddoniaeth dinasyddion. Cofrestrodd dros 100 o wirfoddolwyr a chawsant hyfforddiant i gasglu data amgylcheddol am ansawdd y dŵr yn Nyfrffordd Aberdaugleddau trwy arolygon ac ail-arolygon ar rannau o’r glannau. Fe fu’r gwirfoddolwyr yn cofnodi ac yn tynnu lluniau o bob mewnbwn dŵr croyw a ddarganfuwyd yn draenio i mewn i’r brif ddyfrffordd ar hyd eu darn penodol nhw o’r arolwg. Fe fu’r gwirfoddolwyr yn samplo rhai o’r mewnbynnau dŵr i brofi am nitradau a ffosffadau. Gwnaed cyfanswm o bedwar arolwg ar hyd pob adran rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Mawrth 2019.

Wedi cwblhau’r pedwar arolwg, profwyd 881 o samplau o ddŵr am nitradau a ffosffadau, a dogfennwyd 2105 cofnod o fewnbynnau dŵr croyw. Daeth y gwaith i gyfanswm o 927 o oriau gwirfoddoli.

Darganfu SWEPT fod y pecynnau profi Kyoritsu PackTest a ddefnyddiwyd yn ffordd syml, gyflym a chost-effeithiol i wyddonwyr dinasyddion feintoli llygredd maetholion mewn arolygon ar draws y dirwedd. Mae’r canlyniadau sydyn yn gymorth rhagorol i godi ymwybyddiaeth o lygredd maetholion.

Ym mis Gorffennaf 2019 enillodd SWEPT y Wobr ‘Park Protector’ gan Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol, gan godi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad pwysig rhwng gweithgarwch ar y tir a chyflwr dyfroedd arfordirol. Diolch i’r arian a gafwyd yn wobr gan y Wobr ‘Park Protector’, roedd modd dadansoddi mwy o ddata a chynhyrchu adroddiad cynhwysfawr fel cymorth i efelychu’r prosiect mewn ardaloedd eraill. Diolch i nawdd pellach gan Bartneriaeth Natur Sir Benfro, roedd modd rhannu ymhellach trwy weminar ar-lein.

Er gwaethaf yr ymwybyddiaeth o broblem llygredd maetholion o fewn y dalgylch, nid yw’r broblem wedi cael ei datrys eto. Mae digwyddiadau llygredd yn dal i gael eu hadrodd yn erbyn lefel cefndir y maetholion yn yr ardal sydd eisoes yn uchel ac yn eang.

Roedd allbynnau’r prosiect hwn yn cynnwys:

Cliciwch i wneud yn fwy

SWEPT2
(Surveying the Welsh Environment for Pollution Threats)

Arweiniodd llwyddiant SWEPT at brosiectau ansawdd dŵr eraill. Diolch i nawdd gan Bartneriaeth Natur Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro roedd modd cynnal arolwg arfordir agored yn ACA Sir Benfro Forol ym mis Hydref 2020. Bu’r Parcmyn, Swyddog yr ACA a nifer fach o wirfoddolwyr SWEPT a oedd wedi cael eu hyfforddi, yn cynnal yr arolygon. Llwyddodd hyn i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod llygredd maetholion hefyd yn gyffredin ar hyd arfordir agored Sir Benfro yn ogystal ag yn nalgylch dyfrffordd Aberdaugleddau. Er nad yw’n gymaint o broblem i fywyd gwyllt morol am fod llygredd yn cael ei olchi oddi ar y lan yn gyflym a’i wanedu, yn hytrach na’i fod yn cael ei gadw o fewn amfaeau a chilfachau,  mae’n broblem sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi ac sy’n gallu achosi canlyniadau difrifol i iechyd pobl sy’n defnyddio’r dyfroedd at ddibenion hamdden, yn enwedig tu allan i fisoedd yr haf.

Lluniwyd adroddiad cryno am y gwaith.

[Prosiect arall ychydig i’r gogledd o ACA Sir Benfro Forol a ddefnyddiodd dulliau SWEPT oedd CLEAN ].

Cliciwch i wneud yn fwy