Tafol y traeth
Tafol y traeth, Rumex rupestris, yw un o’r planhigion fasgwlaidd endemig sydd dan y mwyaf o fygythiad yn Ewrop. Y Deyrnas Unedig yw cadarnle’r byd ar gyfer y rhywogaeth hon. Ar hyn o bryd rydym yn gwybod ei bod mewn tri lleoliad yng Nghymru, ac un ohonynt yw Sir Benfro. Ystyrir bod cytrefi sy’n cynnal 50-100 o unigolion yn rhai mawr, ac mae’r rhan fwyaf (yn enwedig y rheiny sydd ar lannau creigiog) yn dal llai na deg unigolyn. Amcangyfrifir bod cyfanswm poblogaeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys llai na 650 o blanhigion. Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod am un safle yn unig yn yr ACA lle mae tafol y traeth.
Mae tafol y traeth yn tyfu ar draethau creigiog, tywodlyd a chyfordraethau, ar lwyfannau’r lan a llethrau isaf clogwyni ac, ar adegau prin, mewn llaciau twyni. Gellir cael hyd i blanhigion yn tyfu ar eu pennau eu hunain ar y draethell ac wrth waelod clogwyni lle mae yna ddŵr yn rhedeg. Ond, mae i’w gweld ble mae ffynhonnell gyson o ddŵr croyw ar gael, yn unig, boed yn ddŵr sy’n rhedeg neu’n ddŵr llonydd. Mae’n well ganddi dyfu wrth ymyl nentydd sy’n mynd i mewn i draethau, ar glogwyni craigfeddal lleidiog ac yn holltiadau’r graig pan fydd dŵr yn rhedeg dros y graig.