Sbwriel morol (Rizkiyanto)

Twtio’r traeth/lleihau plastig

Gallwch helpu lleihau’r sbwriel a’r rwbel ar y traethau trwy ymuno ag ymgyrch dwtio’r traeth leol, neu dreulio #DwyFunudIDwtiorTraeth pan fyddwch chi ar y traeth. Trwy gael gwared ar sbwriel, rydych chi’n lleihau effaith bosibl sbwriel ar fywyd y môr; mae creaduriaid yn gallu mynd yn sownd mewn sbwriel neu fwyta’r plastig ac mae cemegau yn gallu cronni yn eu meinwe. Mae yna nifer o fudiadau sy’n trefnu ymgyrchoedd twtio’r traeth neu’n benthyg offer er mwyn cefnogi ymgyrchoedd o’r fath, er enghraifft:

Mae gwybodaeth am ymgyrchoedd twtio’r traeth sydd ar doed yn Sir Benfro yn cael ei rhannu ar grŵp Pembrokeshire Beach Cleans ar Facebook a reolir gan wirfoddolwyr Surfers Against Sewage.

Mae’n hanfodol eich bod yn cael gwared ar eich sbwriel mewn ffordd ddiogel ar ôl i chi ei gasglu. Os yn bosibl, ewch â’ch sbwriel adref gyda chi a’i sortio i mewn i’ch ailgylchu eich hun. Fel arall, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro a threfnu iddo gael ei gasglu.

Mae yna gyfleusterau derbyn mewn rhai porthladdoedd sy’n ailgylchu malurion glân sy’n gysylltiedig â physgota, a gasglwyd ar y traeth. Gweler Odyssey Innovation a Sea Trust.

Microblastigau (Sue Burton)